Reykjavík แปล
Roedd hi wastad am fod yn ganlyniad agos mewn gwlad â phoblogaeth o’r un maint â dinas Caerdydd . แปล
Ond yn y diwedd , mae’r ffigurau’n dangos pa mor rhanedig oedd Gwlad y Iâ ar fater ailgychwyn trafodaethau i ymuno â’r Undeb Ewropeaidd . Erbyn oriau mân fore Sul , cadarnhaodd y darlledwr cenedlaethol RÚV mai’r ochr ‘ Na ’ a orfu gyda 52.8 % o’r bleidlais . แปล
Mae canlyniad yn gryn ergyd i Frwsel , a oedd yn awyddus i groesawu aelod newydd cyfoethog wrth i lu o wledydd tlotach fel Montenegro baratoi i ymuno â’r bloc yn 2028 ac eraill megis Albania , Bosnia a Herzegovina , Gogledd Macdeonia a Kosovo yn y ciw . แปล
Roedd yn ymddangos bod Brwsel yn barod i gyfaddawdu â Gwlad yr Iâ ar faterion anodd fel hawliau pysgota hwyluso’r camau ymuno , ond na . แปล
Mae’n amlwg bod safiad cefn gwlad a’r sector pysgodfeydd wedi hawlio’r dydd , gan fod 90 % o gwmnïau pysgod yn erbyn closio pellach at Frwsel – ac nad oedd rhybuddion yr ochr “ Ie ” dros ryfel Wcráin ac uchelgeisiau Trump i feddiannu ynys 186 milltir i ffwrdd wedi tycio . Roedd Arlywydd ffwndrus America yn cymysgu byth â hefyd rhwng yr Ynys Las a Gwlad yr Iâ . แปล
Derbyn y canlyniad yn barchus wnaeth y prif weinidog Kristrún Frostadóttir , gan ddweud nad “ tro anffodus ” oedd hi ond “ buddugoliaeth dros ddemocratiaeth ” gan fod 82.5 % o’r rhai oedd yn gymwys i bleidleisio wedi bwrw pleidlais . แปล
Ond roedd eraill yn fwy diflewyn ar drafod , gydag ymgyrchwyr “ Ie ” yn cyhuddo’r nacawyr o bledu ffeithiau ffug tra’n cydnabod bod eu hymgyrch nhw’n llawer mwy trefnus ac effeithiol na nhw . แปล
Swnio’n gyfarwydd ? แปล
Roedd Gweinidog Tramor Gwlad yr Iâ , Þorgerður Katrín Gunnarsdóttir , wedi dweud yn gynharach ei bod yn ofni bod ei gwlad yn wynebu “ eiliad Brexit ” wrth rybuddio am ddylanwad posibl camwybodaeth , ymyrraeth dramor a deallusrwydd artiffisial ar y refferendwm . แปล
Moscow แปล
Ar benwythnos 18 - 20 Medi , bydd Rwsia yn cynnal ei hetholiadau cyffredinol cyntaf ers y goresgyniad llawn cyntaf o Wcráin yn 2022 . แปล
Ac mae RTÉ Iwerddon yn adrodd bod poblogrwydd Putin yn dechrau edwino , gydag arolygon barn cyhoeddus diweddar yn Rwsia yn dangos bod safbwyntiau cymdeithas yn newid . แปล
Mae’r gefnogaeth i’r rhyfel yn Wcráin wedi gostwng dros y flwyddyn ddiwethaf , o 78 % ym mis Gorffennaf 2025 i 66 % ym mis Gorffennaf 2026 . Yn yr un cyfnod , gostyngodd canran y Rwsiaid a oedd yn credu bod eu gwlad yn symud i’r cyfeiriad cywir o 69 % i 54 % , mewn arolwg barn gan Ganolfan Levada Moscow . แปล
Canlyniadau gwael iawn felly , mewn gwlad lle gall mynegi gwrthwynebiad i’r rhyfel arwain at arestio , dirwyon neu hyd yn oed garcharu . แปล
Mae arolygon barn eraill gan gwmnïau fel FOM sydd ynghlwm wrth y wladwriaeth , hefyd yn cyfeirio at orbryderon sylweddol a disgwyliadau is y cyhoedd ynglŷn â’r dyfodol . Serch hynny , maen nhw’n honni bod y Rwsiaid yn dal i gefnogi’r fyddin ac mai prin iawn yw’r potensial am wrthdystiadau mawr . แปล
Ond mae tanysgrifwyr Rwsiaidd i wasanaeth newyddion DW yr Almaen yn cyfleu darlun tra gwahanol , gyda sylwadau fel : แปล
“ Prinder tanwydd , ymosodiadau gan ddronau … Mae teithiau sylfaenol i Dwrci wedi mynd y tu hwnt i gyrraedd pobl yn ariannol … Dydy pobl ddim yn cynllunio dim byd ; maen nhw’n codi arian parod ac yn prynu doleri . Does dim gobaith am ddyfodol disglair na newid grym . Mae pawb yn byw ar gyfer heddiw . Mae mwy a mwy yn yfed yn drwm — hyd yn oed ym Moscow . ” แปล
O safbwynt prinder tanwydd yn sgil ymosodiad dronau Wcráin ar burfeydd olew Rwsia , roedd un tanysgrifiwr o ardal Pechatniki y brifddinas yn disgrifio’r profiad o orfod teithio 30 milltir yn oriau mân y bore i’r orsaf betrol agored nesaf – dim ond i ymuno â chiw o hyd at 100 o geir eraill . แปล
Dywedodd sawl tanysgrifiwr arall fod rhagolygon gwaith yn brinnach a thwf cyflogau wedi arafu . Mae cwmnïau cynhyrchu ceir a mwyngloddio glo , yn symud mwy a mwy o staff i oriau llai neu gyfnodau o absenoldeb gorfodol . แปล
Ac mae’r ychydig swyddi newydd “ naill ai’n talu’n wael neu’n golygu sifftiau blinedig o 12 awr . ” แปล
Rydyn ni’n gwybod bod sensoriaeth y we wedi effeithio’n enbyd ar y Rwsiaid cyffredin ers rhyfel 2022 gan ychwanegu at deimladau ynysig . แปล
Mae’r cyfryngau cymdeithasol megis Instagram , Facebook , WhatsApp a Telegram wedi’u blocio , tra bod y Kremlin yn hyrwyddo ei system negeseua ei hun o’r enw ‘ Max ’ y mae llawer yn ofni sy’n cael ei defnyddio i ysbïo ar y werin a chosbi unrhyw leisiau gwrthwynebus . แปล
Nid trafferthion tanwydd a’r rhyngrwyd yw’r unig boen meddwl , er hynny . แปล
Y tu hwnt i bryder a difaterwch , mae nifer sylweddol o ymatebion yn tynnu sylw at raniadau cymdeithasol cynyddol , wrth i bobl encilio i gylchoedd culach ac osgoi trafodaethau ehangach am y rhyfel . แปล
“ Mae pobl yn gandryll ac yn beio’r Gorllewin am eu holl drafferthion . Mae bywyd wedi mynd yn llawer tlotach , yn fwy diflas ac yn fwy peryglus nag yr oedd cyn y rhyfel , ” nododd un tanysgrifiwr . แปล
Fenis แปล
Mae un o wyliau ffilm mwya’r byd – Mostra Internazionale d’Arte Cinematografica della Biennale di Venezia – ar fin dechrau , ac yn argoeli i fod gyda’r mwyaf gwleidyddol eto . แปล
Bydd yr 83ain ŵyl flynyddol yn cychwyn ddydd Mercher 2il o Fedi , a gyda ffilmiau am Wcráin , Gaza ac Elon Musk dan y chwyddwydr , mae Reuters yn ei disgrifio fwy fel “ stafell ryfel ” â charped coch . แปล
Ffilm agoriadol Fenis eleni fydd Ink gan y cyfarwyddwr Danny Boyle , am sut wnaeth Rupert Murdoch ( a chwaraeir gan ei gydwladwr Guy Pearce ) brynu papur dyddiol methiannus The Sun ym 1969 a’i droi’n un o dabloids mwyaf asgell dde dylanwadol Prydain . แปล
Mae’r gystadleuaeth eleni hefyd yn cynnwys NAZA , rhaglen ddogfen gan y gwneuthurwyr ffilmiau o Israel , Yuval Abraham a Rachel Szor , sy’n archwilio’r modd mae ymgyrch milwrol Israel yn lladd sifiliaid Palestinaidd yn Gaza . แปล
Un arall yw My Undesirable Friends Part II — Exile gan y cyfarwyddwr Americanaidd - Rwsiaidd Julia Loktev sy’n cofnodi’r camau a gymerwyd gan Vladimir Putin i atal newyddiaduraeth annibynnol yn Rwsia . แปล
Mae ’ na stamp Cymreig i’r ŵyl eleni hefyd , gyda ffilm realiti rhithwir arbennig a welwyd yn Eisteddfod y Garreg Las eleni , sy’n cystadlu am dlws ‘ y ffilm technoleg ymgolli orau ’ . แปล
Yn gynhyrchiad ar y cyd rhwng Canolfan y Mileniwm , Theatr Pilot a Dreaming Methods a’r Llyfrgell Genedlaethol , mae Ôl ( Haunts ) yn mynd â ni’n ôl i dref chwarelyddol Llanberis 2006 , ar drothwy byd newydd lle mae Twitter newydd ei lansio a phobl ifanc yn dod i arfer yn gyflym â chymdeithas lle mae’r cyfryngau cymdeithasol a thechnoleg yn ennill tir . แปล
Meddai’r awdur a’r cyd - gyfarwyddwr o Fôn , Tom Chetwode - Barton : แปล
“ Mae’n wych gweld gwaith trochi yn yr iaith Gymraeg yn cael ei gydnabod ar y llwyfan hwn . Gobeithio y bydd yn helpu i dynnu sylw at yr holl ddoniau a chreadigrwydd sy’n dod o Gymru , ac yn dangos sut gall adrodd straeon trochi gysylltu â chynulleidfaoedd ym mhedwar ban byd . ” แปล